Tudur Dylan Jones
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Teyrnged i Gerallt Lloyd Owen

15 Gorffennaf 2014 Diweddarwyd 20:12 BST

Y prifardd Tudur Dylan Jones yn cael ei holi gan Aled Scourfield am gyfraniad Gerallt Lloyd Owen a fu farw yn 69 oed.

Dywedodd fod enw Gerallt Lloyd Owen yn un sy'n gallu cael ei osod ar yr un lefel a pobl fel R Williams Parry, Waldo Williams a Dafydd ap Gwilym.

Enillodd Gerallt Lloyd Owen gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, am ei awdlau 'Afon' (1975) a 'Cilmeri' (1982).

Roedd hefyd yn adnabyddus fel Meuryn y gystadleuaeth radio boblogaidd, Talwrn y Beirdd, ac Ymryson y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.