T20 Blast: Sussex yn curo Morgannwg

Luke Wright Image copyright Getty Images
Image caption Fe sgoriodd Luke Wright 66 rhediad i Sussex

Fe sicrhaodd 66 rhediad gan Luke Wright fuddugoliaeth bum-wiced i Sussex dros Forgannwg yn y T20 Blast.

Fe wnaeth yr ymwelwyr ddechrau'n deg, ond fe lithrodd Morgannwg o 59-0 i 79-4 wrth i Will Beer gymryd 3-14.

Wedi'r fuddugoliaeth, mae Sussex yn dringo i'r chweched safle yng Ngrŵp y De gyda dwy gêm yn weddill.

Mae'n nhw ddau bwynt y tu ôl i Surrey - sydd yn y pedwerydd safle - ond mae'n nhw wedi chwarae o leia' un gêm yn fwy na gweddill y timau o'u hamgylch.

Mae Morgannwg yn parhau i fod yn y trydydd safle, gyda 13 pwynt o 12 gêm.