Slovan Bratislava 1-0 Seintiau Newydd

Cynghrair Pencampwyr

Slovan Bratislava 1-0 Seintiau Newydd

Colli oedd hanes y Seintiau Newydd oddi cartre yn Stadiwm Pasienky yng nghymal cyntaf ail rownd y gemau cymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr nos Fawrth.

Erik Cikos sgoriodd wedi 52 munud gydag ergyd droed chwith.

Bydd yr ail gymal ar Orffennaf 22 yn y Rhyl, gan fod pryderon am y cae yng Nghroesoswallt.

Dywedodd rheolwr y Seintiau, Craig Harrison wrth y BBC: "Mae'r ornest yn dal yn fyw, roedd ein perfformiad yn dda ac mi wnaethon ni brofi ein bod yn medru achosi problemau iddyn nhw".

Mae'r tîm o Slofacia wedi blasu llwyddiant Ewropeaidd nol yn '69 pan guron nhw Barcelona yng Nghwpan Enillwyr y Gwpan.

Fe gyrhaeddon nhw rownd y grwpiau yng Nghynghrair Ewropa yn 2011/12 ar ôl curo Roma, ond fe aethon nhw allan ar ôl ennill dim ond un pwynt.