Cymru yn cofio Gerallt Lloyd Owen

Gerallt Lloyd Owen Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Gerallt Lloyd Owen, a fu'n llais Y Talwrn am dros 30 mlynedd

Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen fu farw yn 69 oed ddydd Mawrth.

Mi oedd yr awdur Elfyn Pritchard o'r Sarnau yn ei adnabod ers pan oedd yn fachgen ysgol yn y Sarnau. Dyma'r cyfnod pan ddechreuodd Gerallt farddoni ac mi ddywedodd ar raglen Taro'r Post bod y ddau yn trafod ei gerddi tan oriau mân y bore.

"Mi oedd o'n hogyn poblogaidd. Mi oedd o yn g'radur annwyl ... wrth ei fodd yn tynnu coes a rhywun yn tynnu ei goes ... un o ddifri heb fod yn ddifrifol oedd Gerallt."

Fe ddywedodd y cyn Archdderwydd, y Parchedig John Gwilym Jones wrth BBC Cymru: "Fe wnaeth Gerallt gyfraniad eithriadol o sylweddol i lenyddiaeth Cymru.

"Fe ddangosodd ddawn a gweledigaeth arbennig iawn. Bob tro roedd o'n gwneud unrhyw beth roedd 'na sglein a dyfnder arbennig i'r mynegiant.

"Pan 'da ni'n sôn am wir feirdd - dau enw sy'n dod i'r meddwl - Dic Jones a Gerallt Lloyd Owen."

'Gwaddol mewn geiriau'

Yn ôl yr Athro Peredur Lynch o adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor: "Gallwn gysuro'n hunain bod Gerallt wedi gadael gwaddol mewn geiriau".

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Tudur Dylan Jones yn rhoi teyrnged i Gerallt Lloyd Owen

Dywedodd Bardd Plant Cymru, Aneirin Karadog: "Mae ei eiriau yn dal gyda ni ond beth sydd wedi tewi yw tân ei awen.

"Bydd yna wacter hebddo a dwi'n teimlo bod yna faich nawr ar ysgwyddau ein cenhedlaeth ni o feirdd i wneud yn siwr ein bod ni yn gwneud yr hyn yr oedd Gerallt yn ei wneud, sef cadw cof ein cenedl."

Bu Gerallt yn Feuryn ar Ymryson y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru am flynyddoedd. Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod: "Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymateb gyda thristwch i'r newyddion, ac yn cydymdeimlo gyda'r teulu ar yr adeg anodd yma."

Ysgrifennodd y Prifardd Myrddin ap Dafydd englyn yn syth ar ôl clywed y newyddion tra'n teithio o Lithfaen i Nefyn:

COLLI GERALLT

Aeth y Garn a'r iaith i gornel,- aeth dydd

a nerth dyn yn isel,

aeth y ffraeth drwy fôr ffarwel,

aeth Gerallt dros rith gorwel.

Dywedodd Myrddin ap Dafydd bod Gerallt wedi bod yn gymorth mawr iddo wrth sefydlu Gwasg Carreg Gwalch.

"Roedd Gerallt wedi creu argraff arna i efo cylchgrawn Hebog ac yna aeth yn ei flaen i sefydlu Gwasg Gwynedd. Bu Gerallt yn hael iawn iawn yn rhannu cyfrinachau a'i gysylltiadau."

'Colli cawr'

Mewn teyrnged ar raglen Post Prynhawn BBC Cymru, fe ddywedodd y Prifardd Meirion MacIntyre Huws fod marwolaeth Gerallt Lloyd Owen yn golled enfawr.

"Nawn ni byth, byth weld rhywun tebyg i Gerallt eto, dyna'r math o golled. "

Fe ddywedodd ein bod fel cenedl wedi colli cawr o ran llenyddiaeth.

"Mi roedd o'n cyrraedd clustiau pawb, yn creu argraff ar bawb, roedd o'n mynd â barddoniaeth gam ymhellach a chyrraedd pobl ar lawr gwlad.

"Does dim rhai i chi gael doethuriaeth yn y Gymraeg i ddeall barddoniaeth Gerallt... a dyna un o'i gampau mawr o."

'Hiwmor parod'

Fe ddywedodd Golygydd Rhaglenni Radio Cymru, Betsan Powys: "Trist iawn oedd clywed am golli un o leisiau unigryw a dawnus Cymru y Prifardd Gerallt Lloyd Owen.

"Fe fu'n llais Y Talwrn ar Radio Cymru am 32 o flynyddoedd. Fel y dywedodd e'i hun wrth roi'r gorau i bwyso a mesur gwaith y beirdd, fe fu'n Feuryn am hanner ei oes.

"Roedd ei gyfraniad i'r orsaf yn aruthrol, a'r beirdd a'r gwrandawyr fel ei gilydd yn elwa o'i sylwadau treiddgar, crafog a'i hiwmor parod.

"Fe wnaeth yn gwbwl siwr bod yna le canolog i farddoniaeth ar Radio Cymru ac mae'r cyfraniad enfawr hwnnw i'w deimlo fyth."

'Bardd hyd flaenau ei fysedd'

Meddai Alun Ffred Jones AC: "Ym marwolaeth Gerallt Lloyd Owen, mae Cymru wedi colli un o'i beirdd mwyaf.

"Roedd Cerddi'r Cywilydd yn gampwaith oedd yn crisialu teimladau ei genhedlaeth am wleidyddiaeth a'r Gymraeg.

"Roedd yn fardd hyd flaenau ei fysedd ond yn ogystal â hyn fe wnaeth gyfraniad mawr fel golygydd comic Cymraeg Yr Hebog, ac fel cyhoeddwr."

'Fy Nghawl Fy Hun'

Fe'i ganwyd yn Y Sarnau, Sir Feirionnydd, ym mis Tachwedd 1944 a'i addysgu yn Ysgol Y Sarnau; Ysgol Tytandomen, Y Bala a'r Coleg Normal, Bangor.

Bu'n athro yn Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd; Ysgol Glyndwr, Pen-y-Bont ar Ogwr ac Ysgol Gymraeg Y Betws cyn mynd ati i sefydlu Gwasg Gwynedd yn 1972.

Bu'n gyfrifol am ddylunio a chyhoeddi'r comics Cymraeg, Yr Hebog a Llinos yn ogystal â chwech o lyfrau ar gyfer plant.

Meistrolodd y cynganeddion yn gynnar iawn ac fe gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf, Ugain Oed a'i Ganiadau fel mae'r teitl yn awgrymu, pan yn ifanc iawn.

Gyda'i ail gyfrol Cerddi'r Cywilydd (1972) y daeth i wir amlygrwydd fel bardd ac fe wnaeth ei drydedd gyfrol o gerddi, Cilmeri a Cherddi Eraill, ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 1992.

Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yn 1962, 1965 ac 1969 a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1975 a 1982.

Yn 1999 cyhoeddodd ei hunangofiant, Fy Nghawl Fy Hun, sef hanes chwarter canrif cyntaf ei fywyd.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC