Pennaeth BBC Cymru yn amddiffyn rhaglenni Saeneg y gorfforaeth

Rhodri Talfan Davies
Image caption Bu Rhodri Talfan Davies yn siarad am wasanaethau arlein a'r berthynas â S4C

Mae Cyfarwyddwr BBC Cymru wedi ymateb i'r feirniadaeth am arlwy rhaglenni Saesneg BBC Cymru.

Ym mis Ebrill hawliodd Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, fod yr arlwy o raglenni Saesneg ar BBC Cymru wedi erydu yn ystod y degawd olaf, ac nad yw rhai agweddau o fywyd yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu yn ddigonol trwy gyfrwng y Saesneg.

Bu'r gorfforaeth yng Nghymru yn wynebu rhagor o feirniadaeth heddiw pan ddywedodd Rosemary Butler, Llywydd y Cynulliad, mewn tystiolaeth i ymchwiliad ar ddyfodol y BBC , nad oedd digon o raglenni Saesneg am Gymru ar brif rwydweithiau'r BBC, a bod canfyddiad "nad oedd y BBC wedi ymdopi â datganoli."

Yn siarad ar raglen John Walter Jones ar BBC Radio Cymru dywedodd Rhodri Talfan Davies fod darlledu cyfresi drama diweddar sydd yn portreadu gwahanol agweddau o fywyd yng Nghymru yn gam i'r cyfeiriad cywir.

Cyfeiriodd yn benodol at raglenni 'Y Gwyll/Hinterland', 'Indian Doctor' ac 'A Poet in New York'.

Hefyd bu Cyfarwyddwr BBC Cymru yn egluro'r cynlluniau i adleoli pencadlys BBC Cymru o Landaf i ganol dinas Caerdydd. Wrth gydnabod y byddai'r adleoli yn golygu buddsoddiad mawr yn y brifddinas, dywedodd mai rhywbeth i'r genedl gyfan yw'r BBC, ac mae angen mynd a'r sefydliad at gymaint o bobl ac sydd bosib."

Roedd BBC Cymru wedi ystyried nifer o leoliadau meddai, ond y dewis gorau, ac yr un oedd yn gwneud mwyaf o synnwyr yn ariannol oedd canol Caerdydd.

Dywedodd Mr Davies mai un o'r pethau pwysicaf i gofio oedd: "fod y sefydliad yn llai pwysig na'r gwasanaeth.'

Cydweithio â S4C

Pan ofynnwyd i Rhodri Talfan Davies am y berthynas rhwng y BBC ac S4C, dywedodd bod gan y ddau ddarlledwr "berthynas aeddfed, a bod cyd-weithio rhwng y ddau sefydliad yn gwbl allweddol gan eu bod yn wynebu'r un heriau."

Yn ôl Mr Davies mae datblygu gwasanaethau ar-lein Cymraeg yn flaenoriaeth hefyd i'r gorfforaeth. Eglurodd fod BBC Cymru eisiau cynnig gwasanaeth cyfredol byw unigryw i Gymru trwy gyfrwng gwasanaeth Cymru Fyw.

C