Hart wedi 'torri'r cod gweinidogol' yn ôl cadeirydd GIG

Edwina Hart

Mae cyn gadeirydd ymddiriedolaeth GIG yn dweud ei fod wedi teimlo pwysau gan Weinidog yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth yn ymwneud ag aelodau cynulliad.

Yn 2007 cafodd cais ei wneud gan y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Edwina Hart - sydd bellach yn Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth - i gael gwybod am ohebiaeth fyddai yn ennyn sylw y cyhoedd, y cyfryngau neu wleidyddion.

Mewn ebost at rhai o staff yr ymddiriedolaeth mi ddywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol GIG:

"Mae cais wedi dod i wneud yn siwr fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael gwybod y diweddaraf ynglŷn â'r holl ohebiaeth allai godi fyddai yn ennyn sylw gwleidyddol, gan y cyfryngau neu'r cyhoedd.

"Er enghraifft o dan yr adran ohebiaeth gan ACau mi fydden i yn disgwyl i'r pwnc a'r AC fod yn hysbys i ni ond does dim angen i ni weld yr ohebiaeth."

Mae Elfed Roberts, oedd yn gadeirydd ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru rhwng 2005 a 2009 yn dweud bod y cais yn amhriodol.

Tebyg i gais Alun Davies

Mae o wedi ysgrifennu llythyr at y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Ynddo mae'n dweud bod y cais yn un tebyg i'r un wnaeth Alun Davies, y cyn Weinidog Cyfoeth Naturiol. Cafodd Mr Davies ei ddiswyddo ar ôl iddo wneud ymholiad am sefyllfa ariannol pump AC.

"Dyma gais ar ran y Gweinidog Iechyd gan un o'i Chyfarwyddwyr Rhanbarthol allweddol fyddai wedi golygu torri cyfrinachedd glaf, torri cyfrinachedd rhwng Aelod Cynulliad ac aelodau'r Senedd a hefyd efallai camddefnyddio data o dan y ddeddf diogelu data".

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar yn galw ar y Prif Weinidog i ymchwilio.

"Mae'n ymddangos bod hon yn enghraifft arall frawychus o weinidog Llafur yn ceisio cael gwybodaeth gyfrinachol am resymau gwleidyddol.

Dim tebygrwydd

"Mae hyn yn torri'r cod gweinidogol ac mae'n dystiolaeth bod y math yma o weithredu ddim 'mond yn digwydd gydag un gweinidog neu o fewn un adran."

Mae'n dweud bod angen i Carwyn Jones gynnal ymchwiliad ymhob adran yn y llywodraeth a gwneud yn siwr nad ydy ymddygiad fel hyn dal yn digwydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ebost saith mlynedd yn ôl yn cyfeirio at gais gwybodaeth am faterion yn ymwneud gyda'r GIG.

"Mae unrhyw ymgais i wneud cymhariaethau gyda digwyddiadau wythnos ddiwethaf yn hollol chwerthinllyd."

Straeon perthnasol