Tri chyngor yn y de i gyd-weithio

Cynghorau Cymru
Image caption Daw'r cyhoeddiad ar adeg pan mae llawer o drafod am ddyfodol y cynghorau

Mae tri chyngor yn y de wedi cyhoeddi cynlluniau i gyd-weithio er mwyn ceisio darparu gwasanaethau mewn ffordd mwy cost effeithiol.

Mi fydd cynghorau Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg yn rhannu adnoddau ym meysydd masnach, iechyd amgylcheddol a thrwyddedu.

Staff, cynghorwyr ac undebau llafur fydd a'r cyfrifoldeb o ddatblygu'r prosiect ac mi fydd pob cyngor yn gyfrifol am graffu ar y cynnydd yn unigol.

Prif weithredwr Cyngor Pen-y-bont Darren Mepham fydd yn gyfrifol am sefydlu a gweithredu'r gwaith, ac fe ddywedodd: "Mewn cyfnod o galedi ariannol, mae'n amlwg bod angen i bob awdurdod lleol addasu i newidiadau er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd da am gost is.

"Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda chynghorau eraill i ddarparu'r gwasanaethau hyn, o ystyried y pwysau ariannol rydym yn ei wynebu.

"Mae hwn yn un o blith nifer o brosiectau cydweithredol a gaiff eu datblygu wrth i awdurdodau lleol addasu i newid yn yr hinsawdd economaidd a chymdeithasol heriol sydd ohoni."

Daw'r cyhoeddiad ar adeg pan mae newid o fewn strwythurau'r cynghorau ar droed.

Ddechrau'r flwyddyn fe wnaeth y Comisiwn Williams argymhell torri nifer y cynghorau o'r 22 presennol i 12, 11 neu 10.

A'r wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru - sydd yn ariannu'r prosiect rhwng y tri chyngor - y bydd bil yn cael ei gyflwyno fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer uno nifer o gynghorau.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn gobeithio gweld rhai cynghorau'n uno o wirfodd, ond mae nifer o'r bobl sy'n eu harwain wedi nodi eu hanfodlonrwydd gyda'r holl syniad.

Sut fydd yr uno'n digwydd?

Image caption Paul Williams oedd cadeirydd y comisiwn

Fe wnaeth adroddiad y Comisiwn Williams argymell y dylai'r cynghorau canlynol uno:

  • Ynys Môn a Gwynedd;
  • Conwy a Sir Ddinbych;
  • Sir y Fflint a Wrecsam;
  • Ceredigion a Sir Benfro;
  • Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr ;
  • Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful;
  • Caerdydd a Bro Morgannwg;
  • Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen;
  • Sir Fynwy a Chasnewydd ;

Byddai Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Powys a Chyngor Abertawe yn aros heb newid.

Mi fyddai hyn yn arwain at 12 cyngor yng Nghymru.

Fe wnaeth yr adroddiad hefyd gynnig uno:

  • Abertawe gyda Chastell-nedd a Phen-y-bont

ac / neu

  • Sir Gaerfyrddin gyda Cheredigion a Phenfro

Felly, yn ddibynnol ar pa opsiwn fydd yn cael ei ddewis, mi fydd 10, 11 neu 12 cyngor Cymreig ar ôl yr ad-drefnu.

Straeon perthnasol