Easterby yn gadael y Scarlets

Simon Easterby Image copyright Huw Evans picture agency

Mae prif hyfforddwr y Sgarlets, Simon Easterby, yn gadael y rhanbarth ac yn ymuno â thîm hyfforddi Iwerddon fel hyfforddwr y blaenwyr.

Cafodd Easterby, sy'n 38 oed, 65 cap dros Iwerddon.

Dechreuodd ei yrfa gyda'r Scarlets yn 1999, wedi iddo ymuno o Leeds Carnegie. Fe chwaraeodd dros 200 o gemau i'r rhanbarth cyn troi ei olygon at hyfforddi.

Dywedodd Dafydd Jones, cyn chwaraewr rheng-ôl y Scarlets: "Mae'n golled fawr. Bu'n weithiwr caled fel chwaraewr a hyfforddwr.

"Dwi'n credu ei fod yn gyfle rhy dda iddo wrthod. Mae'n hyfforddwr ifanc o'r radd flaenaf, felly nid yw'n syndod ei fod e wedi cael ei dargedu".