Dirwy o £200,000 i Airbus

Donald Williams
Image caption Bu farw Donald Williams pan gafodd ei wasgu rhwng tractor a chynhwysydd

Mae Airbus wedi cael dirwy o £200,000 am fethu â sicrhau iechyd a diogelwch aelod o staff gafodd ei wasgu i farwolaeth yn eu ffatri yn Sir y Fflint.

Bu farw Donald Williams, 62 o Fwcle ar ôl dioddef anafiadau i'w ben tra'n gweithio ar y safle ym Mrychdyn ym mis Tachwedd 2011.

Cafodd Mr Williams ei wasgu tra'n ceisio cysylltu rhan o beirianwaith i dractor.

Fe farnodd Llys y Goron Caernarfon bod rhaid i Airbus dalo costau o £58,000 hefyd, wedi iddyn nhw bledio'n euog i'r cyhuddiad.

Straeon perthnasol