Tŷ'r Arglwyddi yn pleidleisio o blaid bil cymorth i farw

Y tro diwethaf roedd ymgais i newid y gyfraith yn y cyd-destun hwn oedd yn 2006
Image caption Yr ymgais ddiwethaf i newid y gyfraith yn y cyd-destun hwn oedd yn 2006

Mae aelodau Tŷ'r Arglwyddi wedi cymeradwyo bil fyddai'n cyfreithloni rhoi cymorth i gleifion â salwch terfynol farw.

Bydd y mater nawr yn cael ei ystyried gan bwyllgor yn San Steffan.

Fe wnaeth nifer fawr o Arglwyddi siarad o blaid ac yn erbyn caniatáu i feddygon alluogi cleifion â llai na chwe mis i fyw i roi terfyn ar eu bywydau.

Y tro diwethaf roedd ymgais i newid y gyfraith yn y cyd-destun hwn oedd yn 2006 pan bleidleisiodd yr Arglwyddi o blaid gohirio unrhyw newid.

Os bydd y bil diweddaraf, sy'n cael ei gyflwyno gan yr Arglwydd Falconer, yn cael ei wneud yn gyfraith, mi fydd oedolyn yn ei lawn bwyll, sy'n ddifrifol wael, yn gallu gofyn am gyffuriau er mwyn i feddyg roi terfyn ar ei fywyd.

Dau feddyg

Image caption Cafodd y bil ei gyflwyno yn enw'r Arglwydd Falconer

Ond bydd nifer o gymalau cyfreithiol yn ceisio atal neb rhag cam-ddefnyddio'r ddeddf newydd.

Er enghraifft, mi fyddai'n rhaid i ddau feddyg gytuno, yn annibynnol, fod y claf wedi gwneud penderfyniad nad yw am ei newid, a hynny ar ôl ystyried yr holl ffeithiau.

Ni fyddai'r gyfraith newydd yn caniatáu i neb roi cymorth i unigolyn gyflawni hunanladdiad pan nad yw'n dioddef o salwch, nac i feddygon roi'r ddos o gyffuriau marwol yn uniongyrchol.

Ymysg y rhai gyfrannodd i'r ddadl oedd y Farwnes Finlay.

'Hawl i wrthod triniaeth'

Ei phrif ddadl oedd bod perygl y gallai pobl fregus gael eu dylanwadu i wneud penderfyniad.

Ychwanegodd: "Rôl fy mhroffesiwn yw mynd i'r afael ag ofnau pobl a'u cefnogi, nid eu hannog nhw mewn unrhyw ffordd i gredu y dylent fyrhau eu bywydau."

Roedd hi'n dweud y byddai'n anodd iawn i feddyg allu gwybod os oedd claf wedi gwneud penderfyniad o'i wirfodd a'u peidio oherwydd bod meddygon heddiw yn gorfod delio â "phwysau gwaith" uchel iawn.

"Os nad ydych eisiau triniaeth allai ymestyn eich bywyd, gallech ei wrthod," ychwanegodd.

'Poen a loes'

Fe siaradodd Arglwydd Dafydd Wigley hefyd yn ystod y ddadl.

Dywedodd ei fod yn annheg fod pobl gefnog â'r opsiwn o fynd i'r Swistir i roi terfyn i'w dioddefaint, ond bod yr opsiwn yma ddim ar gael i bobl dlawd, sy'n gorfod "brwydro o un diwrnod i'r llall, gan ddioddef poen a loes heb fodd o ddod â rhyddhad".

Ychwanegodd nad yw'n iawn fod rhai perthnasau'n gorfod torri'r gyfraith er mwyn "helpu un annwyl i farw", gan nad oes ffordd arall ar gael i bobl sy'n rhy wael i weithredu dros ei hunain.

Mewn cysylltiad â phryderon rhai ymgyrchwyr dros fuddion pobl anabl, dywedodd: "Mae materion anabledd wedi bod yn uchel ar fy agenda drwy gydol fy ngyrfa Seneddol.

"Rwy'n amlwg yn anghyffyrddus os yw'r ddeddfwriaeth yma'n achosi pryder i rai pobl anabl.

"Ond mae'r bil hwn wedi ei anelu nid at anabledd, ond at salwch terfynol - dau beth sy'n hollol wahanol i'w gilydd."

Straeon perthnasol