Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Llwyddodd y Prifardd i gyfleu'r 'boen ddofn o fod yn Gymro'
Image caption Llwyddodd y Prifardd i gyfleu'r 'boen ddofn o fod yn Gymro'

Mae hi wedi bod yn wythnos ryfedd, o ddathlu ac o dristáu.

Y dathlu i ddechrau. Flynyddoedd yn ôl, y peth difyrraf yn y rhithfyd Cymraeg oedd blog cyson Lyn Lewis Dafis, Blog Dogfael.

Rwy'n falch i ddweud, ar ôl cyfnod hir o dawelwch, ag yntau'n ofni ei fod yn llethu ei gylch bychan o gyfeillion gyda'i farn am bawb a phopeth, fod Dogfael wedi penderfynu rhannu ei feddyliau yn fwy eang unwaith eto.

Yn Rhes Gogerddan yn Aberystwyth mae Dogfael yn byw a dywed wrthym ei bod fel bod nôl yn y 1960au a'r 1970au yno dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd ei fod yn teimlo bod ysbryd Llanelltud 1975 yn cerdded y tir unwaith eto a'r gri "Rhaid yw eu tynnu i lawr!" yn eco dros bob man.

Arwydd o'r 1970au

A dweud y gwir, dwi bron yn sicr imi glywed alaw "Peintio'r byd yn wyrdd". Oherwydd rhyw ben, fe osododd y cyngor sir arwydd newydd wrth y stryd yn dwyn yr enw Gogerddan Cottages.

Ar ôl cysylltu gyda chyfaill, o fewn dim roedd yr arwydd wedi'i weddnewid - "retro" yw'r gair a ddefnyddir bellach - i fod fel arwydd o'r 1970au a'r gair Saesneg wedi'i beintio'n wyrdd.

Ond doedd hynny ddim yn ddigon. Rhaid oedd mynd yr holl ffordd. Ond y tro hwn - gan ein bod ni mewn gwirionedd yn byw yn y 2010au - dyma ffonio'r cyngor sir ac fe ddaethon nhw a mynd â'r arwydd i'w drawsnewid yn arwydd dwyieithog.

Yr unig broblem yw nad yw'r cyngor ddim yn rhy siŵr a oes yna fersiwn Cymraeg swyddogol ar enw'r stryd. Edrychwn ymlaen at glywed diwedd yr hanes.

Teimladau cymysg oedd gan Angharad Tomos wrth edrych ymlaen at yr wythnos, wythnos olaf ei mab yn yr ysgol gynradd, diwedd cyfnod go iawn, meddai yn yr Herald, wyth mlynedd o gadw naw y bore a thri y prynhawn yn amseroedd sanctaidd, gydag Angharad neu ei gŵr, glaw neu hindda, wrth giât yr ysgol i'w hebrwng neu ei groesawu.

Mae Angharad wedi bod yn edrych ar gynghorion yr athro ysgol J Edwal Williams, tad y bardd Waldo Williams, bron i ganrif yn ôl, i'r plant oedd yn gadael ei ysgol.

Tristwch

Hoff ran Angharad yw hon: Learn always to know and feel that sunrise and sunset abide in glory unapproachable by the pomp and circumstance of processions coruscating with princes and princelings by hereditary right. Jest y peth i blant 11 oed …

A do, cafwyd tristwch yr wythnos hon hefyd, gyda marwolaeth y bardd Gerallt Lloyd Owen. Does dim prinder teyrngedau gan gydnabod a chyd-feirdd, ond mae'r Hogyn o Rachub ar ei flog yn mynegi teimladau llawer iawn o bobl na fu erioed ar gyfyl ymryson.

Pan ddarllenodd Fy Ngwlad am y tro cyntaf, fe wirionodd arni. Roedd fel petai'n adrodd rhywbeth wrtho a anghofiodd ond na wyddai erioed amdano, meddai. Go brin fod unrhyw linell unigol yn holl lenyddiaeth y Gymraeg sydd drwy ryw fodd yn deffro'r Cymro greddfol yn rhywun yn fwy na Wylit, wylit, Lywelyn ... a hynny heb, ar ei phen ei hun, olygu unrhyw beth o gwbl.

Image caption Angharad Tomos: teimladau cymysg

Yr hyn lwyddodd Gerallt i'w fynegi oedd y boen ddofn, fyw honno sy'n aml yn cyd-fynd â bod yn Gymro Cymraeg. Bod yn rhan o hen hil ar gyrion.

A gorffenna ei flog â'r geiriau hyn: "Am golled i Gymru Gymraeg ydi Gerallt Lloyd Owen. Ond, Iesgob, roedden ni ar ein hennill o'i gael." Clywch, clywch.

Mae adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch.