Dringwr wedi marw yn Eryri

Mae 'na ddyn wedi marw tra'r oedd o'n dringo yn Eryri.

Fe ddywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod nhw wedi eu galw tua 12.30pm b'nawn Iau wedi i ddringwr ddisgyn.

Fe gafodd tîm Achub Mynydd a hofrennydd y Llu Awyr eu galw i Ddinas Cromlech ger Llanberis.

Pan gyrhaeddon nhw, roedd y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.

Roedd y dyn, oedd yn ei 60au, yn dod o ardal Betws y Coed.

Mae crwner gogledd orllewin Cymru wedi cael gwybod am y farwolaeth.