QPR wedi 'cytuno ffi' am Steven Caulker

Steven Caulker Image copyright Getty Images

Mae rheolwr Queens Park Rangers yn dweud bod y clwb wedi cytuno ar ffi i arwyddo amddiffynnwr a chapten Caerdydd, Steven Caulker.

Mae Harry Redknapp yn obeithiol o arwyddo'r amddiffynnwr 22 oed i chwarae wrth ochr Rio Ferdinand i QPR y tymor nesaf.

Ond dywedodd bod Caulker yn dal i ystyried cynigion gan glybiau eraill.

Ymunodd Caulker a Chaerdydd yn 2013, ac fe chwaraeodd pob un o gemau'r Adar Gleision yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.

Ers i Gaerdydd ddisgyn i'r Bencampwriaeth ddiwedd y tymor diwethaf, mae Caulker wedi ei gysylltu gyda sawl clwb.

Mae QPR yn un o'r clybiau gafodd eu dyrchafu i'r Uwch Gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.

Dywedodd Harry Redknapp: "Mae ganddo gwpl o glybiau eraill sydd â diddordeb ynddo ond dwi'n meddwl ei fod yn teimlo os oedd yn chwarae gyda Rio, byddai'n help iddo gael lle yn nhîm Lloegr."

Sgoriodd Caulker yn ei unig gêm i Loegr, yn erbyn Sweden yn 2012.