Ymosodiad yn City Road: dyn 18 wedi ei frifo

City Road

Mae'r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn ymosodiad ar fachgen 18 oed yn City Road yng Nghaerdydd tua 6.20 nos Wener.

Cafodd y dyn anafiadau ar ol i rywun ei drywanu gyda arf oedd efo llafn.

Mae'n cael ei drin yn yr ysbyty ond dyw ei anafiadau ddim yn rhai sydd yn peryglu ei fywyd.

Gofynnir i unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd gyda unrhyw wybodaeth i gysylltu gyda Heddlu'r De ar y rhif 101 neu Taclo'r Tacle yn anhysbys trwy ffonio 0800 555111.