Trywanu Caerdydd: arestio dyn

City Road
Image caption Bu City Road ar gau am rai oriau yn dilyn y digwyddaid

Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio ar ôl i ddyn 18 oed gael ei drywanu yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i City Road yn y Rhath am 18.20 wedi adroddiadau fod rhywun ei drywanu gydag arf oedd efo llafn.

Aed â'r dyn 18 oed i'r Ysbyty Athrofaol ond dyw ei anafiadau ddim yn rhai sydd yn peryglu ei fywyd.

Mae'r heddlu yn holi dyn lleol 23 oed ar amheuaeth o anafu yn fwriadol.

Dywed yr heddlu pe bai unrhyw un a gwybodaeth am yr ymosodiad i gysylltu â nhw ar 02920 527420 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.