Rhybudd i bobl ifanc rhag neidio i ddoc Aberdaugleddau

Milford Haven dock gates Image copyright Deborah Tilley
Image caption Porthladd Aberdaugleddau yw un o'r prysuraf yng Nghymru

Mae yna rybudd wedi ei roi i bobl ifanc rhag neidio i'r môr yn ardal doc Aberdaugleddau.

Y porthladd yw'r un mwyaf yng Nghymru a dywed rheolwyr y dylai pobl gadw draw o'r dŵr sy'n cael ei ddefnyddio gan longau fferi a llongau nwyddau.

"Fe allai cerrynt cryf dynnu pobl o dan y dŵr, ac mae yna ddarnau o bren o dan y dŵr a allai anafu rhywun," meddai Richie Morgan, rheolwr diogelwch ac iechyd ym Mhorthladd Aberdaugleddau.

Daw'r rhybudd oherwydd bod nifer o bobl wedi eu gweld yn neidio i'r dŵr yn ystod yr wythnosau diwethaf.

"Mae'r doc yn le prysur, gyda miloedd o longau yn defnyddio'r lle bob blwyddyn.

"Rydym yn annog pobl i fwynhau golygfeydd y Marina a mwynhau gweld y diwydiant pysgota o'r lan, ond mae yna beryglon gwirioneddol o neidio yn y dŵr. "

Mae'n dweud eu bod yn hapus fod pobl yn defnyddio'r dŵr ar gyfer gweithgareddau hamdden.

Ond mae hefyd yn argymell y dylai pobl fynychu gweithgareddau sydd wedi eu trefnu gan hyfforddwyr cymwysedig a hynny mewn ardaloedd diogel.

Pe bai rhywun yn gweld pobl yn neidio i'r dŵr yn y Doc, mae'r awdurdodau yn gofyn iddynt gysylltu â nhw ar 01646 696300.