A470 wedi ailagor

Mae'r A470 wedi ailagor ar ôl bod ar gau i gyfeiriad y de am gyfnod yn Nantgarw ger Caerffili yn dilyn damwain.

Cafodd dynes oedd yn teithio yn y car ei hanafu.

Digwyddodd y ddamwain tua 10.15 ddydd Sul.

Yn ôl yr heddlu mae'n debyg fod y car wedi taro yn erbyn rhwystr a bod y car wedi gwyro oddi ar y lon

Fe aed a'r ddynes i'r ysbyty ond does yna ddim manylion am ei chyflwr.

Mae'r heddlu yn galw ar yrwyr i gadw draw o'r ardal.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.