Dynes wedi marw wedi gwrthdrawiad A470 ger Caerffili

Gwrthdrawiad Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd y ffordd ar gau am nifer o oriau wrth i'r heddlu ymchwilio.

Mae dynes 36 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Caerffili fore Sul, yn ôl Heddlu'r De.

Cafodd y ddynes o Gaerdydd ei chludo i Ysbyty'r Brifysgol yn dilyn y ddamwain rhwng Nantgarw a Ffynnon Taf am tua 10:15am.

Bu farw o'i hanafiadau yn ddiweddarach.

Cafodd y ffordd ei chau am nifer o oriau wrth i'r heddlu ymchwilio.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad neu sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.

Straeon perthnasol