Gyrrwr beic modur: Agor cwest

Daniel Roch

Mae'r cwest i farwolaeth gyrrwr beic modur o Sir Benfro wedi ei agor a'i ohirio - wedi iddo farw ar ôl cael ei anafu mewn ras yng Ngheredigion.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod Dan Roch, 19 o ardal Arberth yn Sir Benfro wedi ei anafu yn y ras yn ardal Bwlchllan ger Llanbedr Pont Steffan ddydd Sul.

Er i'r ambiwlans awyr gael ei alw i'r safle, roedd Mr Roch wedi cael anafiadau angheuol.

Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Straeon perthnasol