'Talcen caled' i Dîm Cymru os am ennill 27 o fedalau

Faye Pittman
Image caption Mae Faye Pittman angen llawdriniaeth ar anaf i'w hysgwydd

Mae rheolwr Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad, Brian Davies, wedi dweud y bydd hi'n "dalcen caled" wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y nod o ennill 27 o fedalau yn Glasgow eleni.

Mae tri o'r gobeithion gorau am fedalau - y pencampwyr triathlon Non Stanford a Helen Jenkins, yn ogystal â'r Bencampwraig seiclo ar y trac, Becky James - wedi gorfod tynnu'n ôl o'r cystadlu oherwydd anafiadau.

Nawr mae dau yn rhagor o'r cystadleuwyr wedi cael anafiadau.

Ond mae Mr Davies yn obeithiol y gall y tîm fod yn weddol agos at y targed, a dywedodd nad oedd colli cystadleuwyr - yn ogystal â gwaharddiad y rhedwr Gareth Warburton am fethu prawf cyffuriau - wedi effeithio ar ysbryd y tîm.

Yn y cyfamser, mae dau arall o'r athletwyr wedi eu hanafu, gan olygu na fyddan nhw'n cystadlu yn y Gemau.

Mae Faye Pittman, sy'n codi pwysau, angen llawdriniaeth ar anaf i'w hysgwydd, a Kyle Davies - sy'n arbenigo mewn jiwdo - wedi brifo ei ben-glin.

Does 'na ddim amser i ddod o hyd i rywun yn lle'r un o'r ddau.

Mae'r focswraig Ashley Brace hefyd allan oherwydd problemau cymhwyso.

Fe enillodd Tîm Cymru wyth medal yn Delhi bedair blynedd yn ôl.

Straeon perthnasol