Seintiau Newydd am 'roi popeth'

TNS
Image caption Oes gan bencampwyr Cynghrair Cymru ddigon o allu i guro Brenhinoedd Bratislava?

Mae gan y Seintiau Newydd 90 munud i achub eu breuddwyd Ewropeaidd, wrth iddyn nhw groesawu Slovan Bratislava i Gymru.

Maen nhw gôl ar ei hôl hi yn dilyn y gêm gyntaf - un ergyd gan Erik Cikos oedd yr unig wahaniaeth rhwng y ddau dîm.

Dywedodd cyfarwyddwr pêl-droed TNS, Craig Harrison: "Mi fydd yn rhaid i ni roi popeth sydd gennym ni i sicrhau canlyniad positif.

"Mae'n rhaid fy mod i wedi gwylio'r gêm ddiwethaf chwech o weithiau, a'r mwyaf rwy'n ei gwylio yr hapusaf yr ydw i gan ein bod ni wedi gwneud mor dda mewn gymaint o wahanol ardaloedd.

"Rwy'n hapus gyda 99% ohono fe ac rwy'n ffyddiog y gallwn ni roi perfformiad tebyg os nad gwell yn yr ail gêm."

FC Sheriff o Transnistria neu FK Sutjeska o Montenegro fyddai gwrthwynebwyr TNS yn nhrydedd rownd y gemau sy'n arwain at le yng ngrwpiau Cynghrair y Pencampwyr.

Yn Stadiwm y Rhyl fydd y gêm yn cael ei chwarae gan fod pryderon nad oedd stadiwm TNS yn addas.

Mi fydd yr uchafbwyntiau i'w gweld ar Sgorio ar S4C am 22:30.

Straeon perthnasol