Morgannwg yn cael crasfa

Wes Durston Image copyright Getty Images
Image caption 50 rhediad Durston yn y belawd gyntaf oedd yr uchaf drwy gydol y gêm

Mae Morgannwg wedi cael crasfa gan Swydd Derby o fewn tri diwrnod yn yr Ail Adran.

Chafodd y tîm o Gymru fawr o lwc yn erbyn y Saeson, gyda'r difrod mwyaf yn cael ei wneud yn ystod yr ail ddiwrnod wrth iddyn nhw ond llwyddo i gael 42-5.

Roedd hynny wedi rhoi'r tîm cartref 103 ar y blaen, ac erbyn dechrau'r trydydd diwrnod dim ond 60 o rediadau oedden nhw angen i ennill.

Fe frwydrodd Morgannwg hynny oedden nhw'n gallu gan fowlio Wayne Madsen am 19 a Michael Hogan am 2-17 yn ystod y bore.

Lwyddodd Mark Wallace i gael dau arall allan wedyn, ond roedd yn brwydro yn erbyn y lli a dim ond mater o amser oedd hi nes i Swydd Derby gael digon o rediadau.

Dywedodd capten Morgannwg, Mark Wallace: "Fe wnaethon ni'n dda i gael pedwar wiced ond wnaethon ni ddim chwarae mor dda â allen ni fod wedi drwy gydol y gêm.

"Roedd yn anodd gyda'r bat, yn enwedig yn ystod y batiad cyntaf, ond i fod yn deg i Swydd Derby fe wnaethon nhw fowlio'n dda iawn, iawn yn ystod y ddau gyfnod ac roedd Mark Footit yn wych, felly roedden nhw'n haeddu ennill."

Batiad Cyntaf

Morgannwg: 138, pawb allan (53.2 pelawd)

Swydd Derby: 241, pawb allan (77.1 pelawd)

Ail Fatiad

Morgannwg: 175, pawb allan (49.2 pelawd)

Swydd Derby: 73 am 4 (24.3 pelawd)

Swydd Derby yn ennill o chwech wiced

Straeon perthnasol