Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru yn 2026?

Glasgow 2014 logo in George Square Image copyright Getty Images

Mae'n bosib y bydd Cymru yn gwneud cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn y dyfodol yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Yn siarad ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, John Griffiths y byddai'n "gwbl addas" i Gymru gynnal y gemau.

Bydd Gemau'r Gymanwlad yn dechrau yn Glasgow ddydd Mercher.

Dywedodd Mr Griffiths: "Mae diddordeb gyda Llywodraeth Cymru mewn cynnal y gemau yng Nghymru felly byddwn yn edrych yn ofalus ar y posibilrwydd ac yn edrych yn ofalus ar brofiad Glasgow ar ôl y gemau yma."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol eu bod yn edrych ar y posibiliadau o gynnal y gemau yn 2026.

Byddai hynny mewn partneriaeth a Chyngor Caerdydd, ond dywedon nhw ym mis Ionawr na fyddai penderfyniad am 2026 yn cael ei wneud tan ar ôl gemau Glasgow.

Y tro diwethaf i Gymru gynnal y gemau oedd yn 1958, pan oedden nhw'n cael eu hadnabod fel Gemau'r Ymerodraeth.

Mae Tîm Cymru ar gyfer y gemau eleni wedi cael eu gwanhau gan sawl anaf, rhywbeth y mae Mr Griffiths yn teimlo all gael effaith ar y gobaith o gyrraedd y targed am fedalau.

"Mae 27 yn anodd wrth gwrs, rydyn ni wedi colli aelodau pwysig o'r tîm," meddai, ond ychwanegodd ei fod yn "gobeithio am y gorau, ac yn edrych ymlaen".