Caulker yn gadael Caerdydd

Caulker Image copyright QPR

Mae Stephen Caulker wedi gadael Caerdydd am QPR, am bris sydd heb gael ei ddatgelu.

Dim ond am yr un tymor fu Caerdydd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair yr oedd Caulker, 22 yn un o'r Adar Gleision.

Fe chwaraeodd pob un o gemau'r clwb y tymor hwnnw gan gael ei benodi'r gapten.

Roedd llawer yn disgwyl iddo adael oherwydd eu methiant i aros yn yr adran, gan ei fod yn cael ei ystyried i fod â photensial i hawlio lle yn nhîm Lloegr.

Dywedodd wrth ymuno â QPR: "Roedd yn bwysig i mi fod yn ôl yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair."

Straeon perthnasol