Emw 3 mis oed ar goll yn y Bala

Zig yr emw Image copyright Arall
Image caption Dydi perchennog Zig ddim yn gwybod all o oroesi yn y gwyllt

Mae 'na emw ar goll yn y Bala.

Yn ôl ei berchennog Peter Wright mae Zig yn dri mis oed, yn rhyw ddwy droedfedd a hanner o daldra gyda gwddf hir iawn a choesau du hir sydd â llawer o bŵer ynddyn nhw.

Dywedodd Mr Wright wrth Aled Hughes ar Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru fore Mercher fod yr aderyn - sydd yn perthyn i deulu'r estrys ac yn frodorol o Awstralia - wedi dianc o'r gwt amser cinio ddydd Llun.

Mae'n bwyta hadau a ffrwythau ac mae'r aderyn wedi dofi. Nid yw ei berchennog yn siŵr fyddai'r emw yn goroesi yn y gwyllt.

Os welwch chi Zig, cysylltwch â Cymru Fyw ar cymrufyw@bbc.co.uk neu ffoniwch Radio Cymru ar 03703 500 700, a cheisiwch ei gadw mewn un lle diogel drwy roi ychydig o ffrwythau neu rawnfwyd iddo.