Costau diswyddo cynghorau: Cynnydd o 78%

Gwasanaethau cyngor
Image caption Mae cynghorau yn wynebu toriadau i'w cyllidebau, ond mae ffigyrau yn dangos bod miliynau wedi ei wario ar ddiswyddo

Mae ffigyrau wedi dod i law BBC Cymru sy'n dangos fod cost diswyddiadau i gynghorau Cymru wedi cynyddu 78%.

Ym mlwyddyn ariannol 2013/14, fe wariodd yr awdurdodau lleol £30.778 miliwn ar ddiswyddiadau, bron i ddwbl gwariant y flwyddyn flaenorol - £17.28m.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud bod diswyddiadau yn dod o ganlyniad i doriadau i gyllidebau cynghorau, a bod taliadau diswyddo yn llai hael na sawl rhan o'r sector gyhoeddus.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gan bob cyngor yr hawl i osod ei drefn ei hun o ran diswyddiadau.

Diffyg cysondeb

Mae'r ffigyrau yn dangos diffyg cysondeb yng nghostau diswyddo gwahanol gynghorau.

Yr awdurdod mwyaf, Cyngor Caerdydd, sydd wedi wynebu'r costau mwyaf, ond mae'r ail gost uchaf gan un o'r cynghorau lleiaf sef Blaenau Gwent.

  • Dros gyfnod o dair blynedd rhwng Ebrill 2011 ac Ebrill 2014 fe wariodd Caerdydd £16.539 miliwn.
  • Mae'r ail gost uchaf gan Flaenau Gwent, a wariodd £7.043 miliwn
  • Ond dim ond £170,000 oedd costau diswyddo Cyngor Caerffili - dafliad carreg o Flaenau Gwent - dros yr un cyfnod.

Mae gan gynghorau'r hawl i bennu telerau ac amodau taliadau diswyddo eu hunain.

Dywed Cyngor Blaenau Gwent bod unrhyw un sydd wedi cymryd diswyddiad gwirfoddol wedi cael yr hawl i dderbyn tâl pythefnos am bob blwyddyn y maent wedi gweithio i'r awdurdod.

Mae'r cynllun wedi newid eleni fel nad yw staff yn gallu hawlio mwy na thâl un wythnos am bob blwyddyn, a hynny os ydyn nhw'n gymwys i hawlio eu pensiwn.

Rhwng Ebrill 2011 ac Ebrill 2014, y cyfanswm gafodd ei wario ar ddiswyddiadau ar draws Gymru oedd £77.056 miliwn.

Nid oes ffigyrau pendant ynglŷn â faint o bobl sydd wedi dewis diswyddiad gwirfoddol, ond mae BBC Cymru wedi derbyn ffigyrau gan hanner y 22 awdurdod, sy'n dweud bod nifer y staff wedi gostwng tua 1,500.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud y bydd angen system sy'n safoni a rheoleiddio taliadau diswyddo os bydd cynghorau yn cael eu had-drefnu yn y dyfodol.

Ychwanegodd y gymdeithas bod 9,300 o swyddi cyngor yng Nghymru wedi eu colli ers mis Hydref 2009.

Maen nhw'n rhybuddio y gall fod 15,000 o ddiswyddiadau pellach os fydd ad-drefniad, sydd tua un rhan o 10 o weithlu cynghorau Cymru.

'Baich toriadau'

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae llywodraethau lleol yng Nghymru yn parhau i ddelio gyda'r baich o doriadau gwariant cyhoeddus yng Nghymru, gyda Cynghorau yn wynebu diffygion posibl o £900 miliwn yn eu cyllidebau erbyn 2018."

Eglurodd y llefarydd fod "pecynnau diswyddo llywodraeth leol yn cynnig telerau llawer llai hael na'r mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus fel Llywodraeth Cymru a'r GIG".

Ychwanegodd y llefarydd bod diswyddiadau yn "rhan hanfodol" mewn sicrhau arbedion tymor byr i gynghorau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gan bob cyngor, fel cyflogwr unigol, yr hawl i osod ei drefn ei hun o ran diswyddiadau, i weddu anghenion ei hun.

Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi rhoi cyfarwyddiadau statudol, ond y gallai'r Gymdeithas Lywodraeth Leol ddod ag awdurdodau gyda'i gilydd i ystyried y mater ymhellach.