Davies a Vorm yn ymuno â Spurs, Sigurdsson i Abertawe

Ben Davies Image copyright PA

Mae amddiffynnwr Cymru, Ben Davies wedi ymuno â Tottenham Hotspur o Abertawe.

Mae'r Cymro, 21, yn symud gyda golwr yr Elyrch, Michel Vorm, i chwarae i dîm Mauricio Pochettino yn Llundain.

Fel rhan o'r trosglwyddiad, mae chwaraewr canol cae Gwlad yr Ia, Gylfi Sigurdsson wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd gydag Abertawe.

Chwaraeodd Sigurdsson i Abertawe yn 2011-12 tra ar fenthyg o Hoffenheim, gan sgorio saith gôl mewn 18 gêm.

Dywedodd Davies nad oedd yn gallu gwrthod y cynnig i chwarae i Tottenham.

"Doeddwn i erioed wedi meddwl am neu wedi bod eisiau gadael Abertawe, ond dydy cyfle fel hyn ddim yn dod yn aml mewn gyrfa," meddai.

Chwaraeodd Davies ei gem gyntaf i'r Elyrch pan yn 19 oed, yn 2012, a cafodd gyfle fel y dewis cyntaf yn safle'r amddiffynnwr chwith pan gafodd Neil Taylor anaf ddifrifol.

Roedd ei berfformiadau yn ddigon i ennill lle yn nhîm Cymru hefyd, ac mae wedi chwarae 10 gwaith i dîm Chris Coleman hyd yn hyn.

Mae dyfalu wedi bod am ddyfodol Michel Vorm ers i Lukasz Fabianski arwyddo i'r clwb ym mis Mai.

Image caption Mae Sigurdsson yn dychwelyd i Abertawe wedi dau dymor gyda Tottenham