Guto Dafydd yn cipio Coron Sir Gâr

Guto Dafydd yw un o'r beirdd ieuengaf i ennill Coron y Brifwyl
Image caption Guto Dafydd yw un o'r beirdd ieuengaf i ennill Coron y Brifwyl

Guto Dafydd sydd wedi cipio Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn bnawn Llun.

Yn 24 oed, mae'n un o'r beirdd ieuengaf erioed i ennill y Goron yn y Brifwyl.

Gyda 32 o feirdd wedi cystadlu eleni, Golygfa Deg ddaeth i'r brig am ei ddilyniant o 10 cerdd ddigynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun 'Tyfu'.

Traddodwyd y feirniadaeth gan Dylan Iorwerth, ar ran ei gyd feirniaid, Marged Haycock a Dafydd Pritchard, ac wrth sôn am waith Golygfa 10, dywedodd:

"Canu am Gymru heddiw trwy sôn hefyd am Gymru ddoe... ac yn y chwarae rhwng y ddau y mae gogoniant y cerddi.

"Mae yna sawl math o dyfu - geni babi i'r byd, twf neu ddiffyg twf cenedl, is-stori am dwf perthynas rhwng dau ac, ar y diwedd, awgrym y gallwn ni dyfu y tu hwnt i'n hargyfwng presennol.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cafodd Guto Dafydd ei goroni ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn Llun

"Cerddi heddiw ydyn nhw. Rhai am ddigwyddiadau eleni. Ymhen blwyddyn neu ddwy mi fydd angen troednodiadau ac mi fydd rhai'n gweld hynny'n wendid.

'Iasol'

"Ond 'dan ni'n beirniadu eleni. Ac mae Golygfa Deg yn gosod heddiw mewn ffordd iasol ar gefndir cannoedd o flynyddoedd o'n hanes ni.

"Meddyliwch am osod helyntion Radio Cymru ac asiantaeth EOS ochr yn ochr â'r hen gerdd am grogi'r telynor Sion Eos o dan gyfraith Lloegr.

"Meddyliwch am roi stormydd Aberystwyth ochr yn ochr â'r gwynt a'r glaw ym marwnad Llywelyn ein Llyw Olaf, ffordd osgoi Porthmadog efo Dafydd Nanmor a'i hiraeth am ei gariad. Drama Blodeuwedd ac Atomfa Trawsfynydd - ein greddf ddireolaeth ni a grym rhannu'r atom.

"Wrth i'r pethau yna ddod ynghyd - ac oherwydd meistrolaeth dechnegol Golygfa Deg a'i hyder o wrth drin iaith a goslef - mae yna rywbeth llawer mwy'n digwydd. Ffrwydrad o ystyr a'r cryniadau'n parhau ymhell bell ar ôl gorffen darllen. Mi gawson ni ein codi o'n cadeiriau i dir uchel iawn gan fardd meistrolgar."

Daw Guto Dafydd yn wreiddiol o Drefor, ond mae bellach yn byw ym Mhwllheli gyda'i wraig, Lisa.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Detholiad o waith enillydd y Goron, Guto Dafydd

Ar ôl mynd i Ysgol yr Eifl, Ysgol Glan-y-Môr a Choleg Meirion-Dwyfor, graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, lle cwblhaodd draethawd hir ar waith Wiliam Owen Roberts ac Iwan Llwyd. Erbyn hyn, mae'n gweithio i Wasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg Cyngor Gwynedd.

Dywedodd bod arno ddyled i'w deulu ac i athrawon a llu cyfeillion am ei gefnogi a'i ysbrydoli.

'Profiad gwych'

Ar ôl y seremoni ddydd Llun, dywedodd wrth Cymru Fyw:

"Mae o wedi bod yn brofiad gwych, ro'n i wedi gwirioni ar y seremoni a ballu ers ro'n i'n ddim o beth.

"Dwi wedi bod yn barddoni ers rhyw 10 mlynedd o ddifri ac mae bob dim wedi bod yn arwain at y diwrnod yma. Wedi'r holl waith dros y blynyddoedd, mae'n eithriadol o braf.

Image caption Dywedodd y bardd fod seremoni'r Coroni wedi bod yn 'brofiad gwych'

"Mae gan Gerallt linell yn ei awdl am Gilmeri - 'a chof sy'n hwy na chofio' - ac wedyn be o'n i eisiau gwneud yn y cerddi yma oedd mynd ar ôl y cof yna.

"Hynny ydy, mae gennym ni fwy na jest be ydan ni'n ei gofio'n bersonol - mae gennym ni gof y traddodiad barddol, mae gennym ni'n holl straeon, yr holl gerddi gwych 'ma sy'n rhan o hynna, ac maen nhw mor, mor berthnasol i'n cyfnod ni heddiw.

"Felly be o'n i eisiau ei wneud oedd edrych ar gyfrwng y Gymraeg a dathlu be' sydd yn gwneud yr iaith yn rhywbeth sy'n dal i fod yn fywiog ac edrych ar yr etifeddiaeth fawr 'ma sydd gennym ni."

"Dwi'n mynd i ymlacio rwan, dwi am fedru trafod y peth 'efo 'mrawd a'n chwaer a'n ffrindiau. Dwi wedi cadw'r gyfrinach rhagddyn nhw a ma' hynna wedi bod yn straen enbyd, wedyn mi fydd hi'n eithriadol o braf fod pawb yn gwybod a pheidio poeni.

"Dwi'n ofnadwy o falch 'mod i ddim wedi ennill y Gadair achos mi fysa cadw'r gyfrinach yna am wythnos yn lladdfa!"

Mae Guto wedi cael llwyddiant mewn eisteddfodau mawr a lleol ers blynyddoedd. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013, a daeth yn agos at frig y gystadleuaeth hon ym Mhrifwyl Sir Ddinbych y llynedd.

Mae'n drydarwr brwd, yn aelod o dîm Talwrn y Tywysogion a thîm ymryson Caernarfon, ac yn mwynhau darllen, darlithio ac adolygu. Mae'n un o golofnwyr y Glec, ac yn cyfrannu'n rheolaidd i Barn, Barddas, Tu Chwith a chyhoeddiadau eraill. Mae Jac, ei nofel dditectif gyffrous i bobl ifanc, newydd ddod o wasg y Lolfa, a chyhoeddir ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth gan Gyhoeddiadau Barddas yng ngwanwyn 2015.

Cefndir Coron 2014

Image caption Treftadaeth diwydiannol Bro'r Eisteddfod oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i waith Angharad Pearce Jones

Gwaith Angharad Pearce Jones, o Rydaman, yw'r Goron, a chafodd yr artist lleol ei hysbrydoli gan dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal, ynghyd â hanes coeden Myrddin.

Esboniodd Angharad: "Mae'r cynllun ar ffurf coeden, sy'n tyfu o'r tu blaen tuag at y cefn. Daeth yr ysbrydoliaeth o hanes coeden Myrddin, o ble mae tref a Sir Gaerfyrddin yn cael eu henwau.

"Er y deunydd diwydiannol roeddwn yn awyddus i'r Goron edrych yn gywrain, yn addurnedig ac yn werthfawr a gobeithiaf bydd bardd teilwng, i'w mwynhau am byth."

Rhoddwyd y Goron a'r wobr ariannol eleni gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.