Ail Gadair i'r Prifardd Ceri Wyn Jones

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cadeirio'r Bardd / Chairing of the Bard (148)

O flaen Pafiliwn llawn dop yn Llanelli bnawn Gwener, y Prifardd Ceri Wyn Jones gipiodd y Gadair - ei ail Gadair yn dilyn ei lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau yn 1997.

Cafodd Meuryn Y Talwrn ar Radio Cymru lwyddiant eto pan ddychwelodd yr Eisteddfod i'r Bala bum mlynedd yn ôl, gan ennill y Goron y flwyddyn honno.

'Lloches' oedd y teitl eleni, gyda'r beirniaid, Llion Jones, Alan Llwyd ac Idris Reynolds, yn chwilio am awdl ar fwy nag un o'r mesurau caeth heb fod dros 250 llinell.

Ar ddechrau'r seremoni, cyfeiriodd yr Archdderwydd Christine James at farwolaeth ddiweddar Gerallt Lloyd Owen, gan roi teyrnged i'r prifardd oedd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfodau Cricieth 1975 ac Abertawe 1982.

'Trawiadau newydd ac annisgwyl'

Cafwyd wyth ymgais yn y gystadleuaeth i gyd, ac wrth draddodi'r feirniadaeth ar lwyfan y Pafiliwn bnawn Gwener, dywedodd Llion Jones bod gwaith Cadwgan yn "cynnig yr antidôt angenrheidiol i gystadleuaeth syndod o ddi-fflach".

"Lle mae lleoliad nifer o'r awdlau eraill yn amhendant ac annelwig, mae hon wedi'i lleoli'n ddiamwys yn nhref Aberteifi heddiw. Mewn cystadleuaeth sydd mewn peryg o suddo dan faich haniaethau, dyma ganu diriaethol gan fardd sydd â llygaid i weld.

"Mewn cystadleuaeth, lle mae llawer iawn o gynganeddu blinedig a llafurus, dyma waith sy'n danchwa o drawiadau newydd ac annisgwyl.

"Yng nghwmni beirdd lluddedig eu hiaith, dyma fardd ag egni yn ei ieithwedd a dawn loyw i amrywio'i gyweiriau i bwrpas.

"Os ydy bydolwg trwch yr awdlau eraill braidd yn unffurf a threuliedig, dyma fardd sy'n dod at ei destun ar hyd nifer o wahanol lwybrau gan agor sawl trywydd i'r darllenydd.

"Mae'r bardd yn codi cwestiynau anodd y byddai'n llawer haws dianc a cheisio lloches rhagddynt . Ond fel y dywedodd y bocsiwr Joe Louis gynt, fe gawn redeg a rhedeg ond does dim cuddio i fod.

'Awen lachar a gwreiddiol'

"Am iddo fynd ati i wyntyllu'r cwestiynau hynny, gydag awen lachar a gwreiddiol, y mae Cadwgan yn llwyr haeddu cadair Eisteddfod Sir Gâr."

Ond daeth i'r amlwg yn ystod y feirniadaeth nad oedd y beirniaid i gyd yn gytûn ar yr awdl fuddugol.

Wrth draddodi, dywedodd Llion Jones:

"Er cydnabod fod Cadwgan "yn gynganeddwr hynod o fedrus", barn Alan Llwyd yw ei fod wedi methu â'r awdl hon. Dydy'r awdl, meddai, "ac eithrio un neu ddau o hir-a-thoddeidiau" ddim wedi'i gyffroi. Teimlad Alan yw bod ynddi "ddarnau llanw" ac "amherthnasol", "gorddefnydd o'r iaith Saesneg" a thuedd at fod yn stroclyd."

Yn sicr, mae'n ymddangos y bydd yr awdl yn ysgogi cryn drafodaeth.

Image caption Ceri Wyn Jones yn cael ei gadeirio

Holi Prifardd wedi'r seremoni

Wrth siarad â Cymru Fyw wedi'r seremoni, dywedodd Ceri Wyn Jones ei bod yn deimlad "hyfryd iawn" cael ei Gadeirio unwaith eto.

"Hyfryd iawn a dweud y gwir, oedd cael fy nheulu o'n amgylch i yn rhoi gwefr ychwanegol - achos pan enillais i'n ôl yn 1997, dyn sengl oeddwn i, felly llwyddiant mwy unigol na heddiw.

"Hefyd ro'n i'n meddwl bod ymateb y dorf mor dwymgalon, odd hwnna'n fy nghynhyrfu ac o'n i'n falch ofnadw o hynny, braf braf braf."

Pam 'Cadwgan' fel ffugenw?

"Ymddiriedolaeth Cadwgan sydd wedi codi'r arian ac wedi arwain yr ymgyrch i adfer Castell Aberteifi, odd yn adfeilion rhai blynyddoedd yn ôl, a'r flwyddyn nesaf bydd yn ailagor yn gartref gogoneddus, yn dŷ treftadaeth fel 'dwi'n ei ddisgrifio fe yn yr awdl, felly rhyw deyrnged anuniongyrchol i'w hymdrechion nhw oedd y ffugenw."

Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd: "Gall yr awdur sy'n cystadlu wneud dim byd oll wrth gwrs am natur y gystadleuaeth yn gyffredinol, 'dwi jyst yn falch bod 'na ddigon o egni yng nghoesau'r un ceffyl hwnnw i gyrraedd y llinell derfyn yn y pendraw.

Ond beth am y ffaith bod un beirniad yn anghytuno?

"Dyna natur llenydda, wrth gwrs, 'dwi'n hen gyfarwydd â'r byd hwnnw - mae gan bob beirniad yr hawl i'w farn, fel mae gan y bardd yr hawl i'w farn wrth gwrs.

"Mae 'da fi barch mawr at Alan Llwyd ac mae sawl sydd yn garedigion llên yng Nghymru yn gwbod yn iawn bod gan Alan Llwyd syniadau pendant iawn ynglŷn â'r hyn sydd yn dderbyniol ac yn annerbyniol, ac mae 'da fe'r hawl i leisio hynny. Ond wedi dweud hynny, doedd y ddau feirniad arall ddim yn cytuno."

Cefndir Ceri

Un o Aberteifi yw Ceri Wyn Jones, ond mae ganddo gysylltiadau agos iawn â chartre'r Brifwyl eleni. Yn Llanelli y priododd ei rieni, Dafydd a Helen, a hynny yng nghapel Tabernacl, lle'r oedd taid Ceri, y Parchedig R. Gwynedd Jones, yn weinidog, a'i dad-cu, Hubert Thomas, yn ysgrifennydd. Yno hefyd roedd ei nain, Eleanor a'i nan, Peggy, yn aelodau amlwg.

Ond mae'r awdl eleni yn Aberteifi o'i chorun i'w sawdl, wrth i'r bardd geisio rhyw loches lle y caiff ddarganfod a diogelu ei Aberteifi bersonol ef, a hynny ynghanol holl gymhlethdod cymdeithasol a diwylliannol y dre hanesyddol hon heddiw.

Mae'r awdl hefyd yn deyrnged anuniongyrchol i'r sawl a weithiodd mor ddiflino i adfer Castell Aberteifi, cartref ysbrydol yr Eisteddfod Genedlaethol.

Image copyright Eisteddfod Genedlaethol
Image caption Mae Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, wedi'i gwneud allan o goeden ywen o ardal Llandysul a gwlân o Lanfihangel yr Arth

Meuryn

Cyrhaeddodd cyfrol Ceri, Dauwynebog y rhestr fer o dri ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008, ac mae ei gerddi'n destunau gosod ar gyfer cyrsiau Lefel A a Gradd. Bu'n Fardd Plant Cymru, ac ef ers 2012 yw Meuryn cyfres radio'r Talwrn.

Mae'n gweithio rhan o'i amser fel golygydd llyfrau i Wasg Gomer, a'r gweddill fel awdur a darlledwr ar ei liwt ei hun. Mae'n briod â Catrin, ac mae ganddynt dri chrwt, Gruffudd, Ifan a Gwilym.

Cyflwynwyd y Gadair gan Stuart Cole, er cof am ei fam, Mrs Gwennie Cole a'i dad, Mr David Cole, a rhoddwyd y wobr ariannol o £750 gan Huw a Jean Huw Jones, Rhydaman, er cof am eu rhieni, T Richard ac Eurllys Jones.

Robert Hopkins, crefftwr lleol, yw gwneuthurwr y Gadair eleni, ac fe'i ysbrydolwyd gan dirlun Sir Gâr wrth ei chreu.

Dywedodd: "Mae'r Gadair wedi'i gwneud allan o goedyn ywen o ardal Llandysul a gwlân o Lanfihangel ar Arth ger Pencader, ac mae hyn yn bwysig, gan mai bwriad y Gadair yw dangos nodweddion y sir, yr arfordir, y bryniau, y cymoedd o ran tirwedd, a chan gyfeirio at nodweddion eraill fel y rygbi a'r Scarlets a'r 'corols' ys dywed trigolion Sir Gâr, y melinau rolio oer yn y gwaith tun, a gwelir hyn ar waelod breichiau'r Gadair."

Am fwy o'r Brifwyl, ewch i'n gwefan eisteddfod arbennig.