Anghenion dysgu ychwanegol: Beirniadaeth

Anghenion dysgu Image copyright llywodraeth cymru

Mae un o gyfreithwyr addysg mwyaf blaenllaw'r DU wedi dweud wrth BBC Cymru y bydd plant gydag anghenion arbennig mewn sefyllfa waeth yng Nghymru na'u cyfoedion yn Lloegr os yw cynigion i newid y system yng Nghymru yn cael eu gweithredu.

Mae ymgynghoriad ar bapur gwyn Llywodraeth Cymru ar Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dod i ben heddiw.

Yn ôl Michael Charles o Sinclairs Law, dyw'r cynigion yn y papur gwyn ddim yn mynd yn ddigon pell i warchod anghenion plant Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n ystyried yr holl ymatebion cyn cyhoeddi eu hymateb.

Y system bresennol

O dan y system bresennol, mae rhiant i blentyn gydag anghenion addysgol arbennig yn gofyn i'r Awdurdod Addysg Lleol i gwblhau asesiad.

Mae tua 4% o ddisgyblion ysgol Cymru - y rhai gyda'r anghenion addysgol mwyaf - yn cael datganiad.

Ar hyn o bryd gellir gorfodi gweithredu ar ddatganiad anghenion addysgol arbennig trwy gyfraith.

Mae Mr Charles yn ofni na fydd yr orfodaeth honno'n bodoli yn y system newydd.

Ar hyn o bryd, os nad yw'r angen yn y categori sydd angen datganiad, fe fyddai'r plentyn yn cael ei gategoreiddio fel "gweithrediad yn yr ysgol" (school action) neu "gweithrediad ychwanegol yn yr ysgol" (school action plus).

Byddai rhiant wedyn yn gwneud cais mwy anffurfiol i'r ysgol am Gynllun Addysg Unigol (CAU).

Y newidiadau arfaethedig

Mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cynnig newid i system ble mae pawb sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Amcangyfrifir fod hyn yn cynrychioli tua 20% o ddisgyblion ysgol Cymru.

Dywed Mr Charles fod y cynigion yn aneglur ar a fydd awdurdodau lleol yn cael eu gorfodi'n statudol i sicrhau bod modd gorfodi gweithredu ar Gynlluniau Datblygu Unigol.

Mewn llythyr i Lywodraeth Cymru, mae Mr Charles yn holi ai'r Awdurdod Addysg Lleol neu'r ysgol a fyddai'n gyfrifol am yr asesiadau o dan y system newydd ble y bydd pob plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael CDU.

Cyfle a gollwyd?

Mae Mike Charles hefyd yn pwysleisio nad yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu cynnwys yr Awdurdod Iechyd yn y cynigion - mae hyn yn wahanol i'r sefyllfa yn Lloegr, ble mae'n dweud bod y gyfraith wedi newid "yn ddramatig".

Mae e'n condemnio hyn fel "cyfle a gollwyd".

Yn ei lythyr mae Mr Charles yn mynegi ei bryder bod yna "ddim ymdrech" wedi bod i drafod sut y bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno.

Mae Mr Charles hefyd yn gofyn a fydd plant sydd â datganiadau ar hyn o bryd yn cael eu trosglwyddo i'r cynlluniau newydd neu a fyddai'r system newydd ond yn berthnasol i'r bobl hynny sy'n cael eu hasesu ar ôl iddi gael ei chyflwyno.

Mae mudiad Dathlu'r Gymraeg hefyd yn pryderu bod diffyg sylw i'r Gymraeg.

Dywed y mudiad mai ond un cyfeiriad at yr iaith sydd ym mhapur gwyn Llywodraeth Cymru.

Mae Penri Williams o'r mudiad yn dweud bod "angen sicrhau bod darpariaeth i gael yn Gymraeg".

"Mae teuluoedd yn defnyddio'r Gymraeg yn y cartref ac mae angen sicrhau bod awdurdodau addysg yn gallu rhoi'r un gwasanaeth i blant yn Gymraeg ac sydd ar gael yn Saesneg a dydy hynny ddim yn digwydd ar hyn o bryd yn aml iawn.

"Mae gan blant hawliau hefyd ac mae ganddyn nhw hawl i ddefnyddio'r iaith y maen nhw'n fwy cyfarwydd efo wrth gael eu haddysg."

Dywedodd Llywodraeth Cymru:

"Mae'r ymgynghoriad ar y pwnc pwysig hwn yn dod i ben heddiw ac rydyn ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi rhannu eu safbwyntiau gyda ni. Byddan nhw'n cael eu hystyried ar y cyd a'r holl ymatebion eraill i'r ymgynghoriad ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi ein hymateb ar yr adeg briodol."