Enwi seiclwr fu farw ym Mhenarth

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw seiclwr fu farw yn dilyn damwain ym Mhenarth ddydd Mercher diwethaf.

Roedd Martin Trinder yn 25 oed ac yn byw yng Nghaerdydd.

Mae'r heddlu yn apelio am i unrhyw un allai fod wedi gweld beth ddigwyddodd i gysylltu â nhw.

Roedd Mr Trinder yn seiclo ar hyd St Augustines Crescent yn mynd lawr allt serth tuag at Ffordd St Augustine pan syrthiodd gan ddioddef anafiadau difrifol.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru er mwyn cael triniaeth, ond bu farw ddydd Mercher Gorffennaf 22.

Gall unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r De drwy ffonio 101.