Dros 200,000 yn ymweld â'r Sioe

Sioe
Image caption Bu selogion y Sioe y lwcus i gael tywydd bendigedig

Fe aeth 237,694 o bobl drwy giatiau'r Sioe Frenhinol y flwyddyn hon, sydd ychydig yn llai na'r ddwy flynedd flaenorol.

Cafodd y record ei thorri yn 2012 a hefyd yn 2013, ond doedd y trefnwyr ddim yn disgwyl gwneud hynny'r flwyddyn hon gan nad oedd y Tywysog Charles yn bresennol.

Dywedodd cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr y sioe, John T Davies: "Er nad yw ffigyrau wastad y ffordd orau i fesur llwyddiant, mae gennym fwy o aelodau nac erioed o'r blaen yn hanes 110 mlynedd y gymdeithas.

"Mae hyn yn fesur o ffyddlondeb a pharch pobl ac yn dangos eu hymrwymiad a'u ffydd yn nyfodol y Sioe."

Yn ôl y trefnwyr fe wnaeth mwy na 30,000 o bobl o 34 o wledydd edrych ar gystadlaethau'r prif gylch a chneifio ar y we.

Gallwch weld lluniau o ddigwyddiadau a champau'r sioe yn oriel luniau Cymru Fyw.

Straeon perthnasol