Dyn 72 wedi ei gyhuddo o dreisio

Llys y Goron yr Wyddgrug
Image caption Fe wnaeth Mr Donaldson ymddangos drwy gyfrwng linc fideo

Mae pensiynwr o ogledd Cymru sydd wedi ei gyhuddo o dreisio dynes 24 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa yn dilyn gwrandawiad.

Fe wnaeth Malcolm Donaldson, 72 o Ffordd Eryri, Caernarfon ymddangos gerbron gwrandawiad ple a rheoli achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug drwy gyfrwng linc fideo o garchar Altcourse yn Lerpwl.

Mae wedi ei gyhuddo o dreisio'r ddynes ar Mawrth 23 ym Mhrestatyn.

Fe roddodd y barnwr Niclas Parry hawl i'r gwrandawiad ple gael ei ohirio am fis yn dilyn cais gan y bargyfreithiwr sy'n amddiffyn Mr Donaldson, Duncan Bould.