Arian ac efydd yn y gymnasteg

Hadford a Jones
Image caption Roedd Halford a Jones yn rhan o'r tîm gafodd arian yn y gystadleuaeth gymnasteg rythmig

Mae Frankie Jones a Laura Halford ill dwy wedi cael medal yn y gystadleuaeth gymnasteg unigol.

Daeth Frankie yn ail gyda sgôr o 57.350, ac fe lwyddodd Laura Halford i sicrhau'r efydd gyda 56.225.

Roedd y ddwy yn gyntaf yn ail cyn i'r athletwraig olaf ddangos ei champau, ac roedd Tîm Cymru yn gobeithio sicrhau eu medal aur gyntaf.

Ond roedd perfformiad Patricia Bezzoubenko o Ganada yn wych, ac fe lwyddodd i gyrraedd sgôr o 59.175.

Y ddwy fedal yma yw'r bedwaredd a'u bumed i'r Cymry yn y gemau, ac mae Cymru'n wythfed yn y tabl medalau ar hyn o bryd.

Mae'r disgwyl am y fedal aur gyntaf yn parhau.

Straeon perthnasol