Efydd yn y pwll nofio

Image copyright Getty Images

Mae Calum Jarvis wedi ennill medal efydd yn y pwll nofio yng Ngemau'r Gymanwlad.

Fe ddaeth y nofiwr yn drydydd yn y ras 200m rhydd, gydag amser o 1:46:53.

Yn siarad wedi'r ras, fe ddywedodd nad oedd o'n gallu coelio'r peth.

"Dw i mor hapus i ennill medal gynta' Cymru yn y pwll," meddai.

Dyma chweched medal Tîm Cymru yn Glasgow hyd yn hyn.