Morgannwg yn y rownd go-cyn derfynol

Mae Morgannwg wedi trechu Swydd Gaerloyw yng nghystadleuaeth 20 pelawd T20 Blast.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Morgannwg wedi cyrraedd y rownd go-gyn derfynol.

Fe ddisgleiriodd Murray Goodwin a Jacques Rudolph yn y fuddugoliaeth wyth wiced.

Nawr, fe fydd Morgannwg yn herio enillwyr Grŵp y Gogledd, Swydd Gaerhirfryn yn Old Trafford.