Glasgow 2014: Selby allan yn y rownd gynta'

Reece McFadden ac Andrew Selby Image copyright PA

Daeth sioc i Dîm Cymru ar ail ddiwrnod y cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, wrth i'r bocsiwr Andrew Selby golli yn y rownd gyntaf.

Roedd Selby, 25, ymysg y ffefrynnau i ennill y fedal aur - ond fe gafodd o'i guro gan ddyn ifanc o'r Alban.

Mae Selby ar frig cynghrair sefydliad boscio amatur AIBA, ac mae ymysg y boscwyr amatur mwyaf llwyddiannus erioed.

Wedi'r ornest, fe ddywedodd: "Dw i ddim yn gwybod beth aeth o'i le. Alla'i ddim egluro, ro'n i'n disgwyl ennill yn hawdd.

"Ro'n i yma i ennill medal i fi ac i Gymru."