Codi Pwysau: Michaela Breeze yn sicrhau efydd

Mae Michaela Breeze wedi ennill medal efydd yng nghategori 58kg y gystadleuaeth codi pwysau yng Ngemau'r Gymanwlad.

Roedd Breeze yn arwain ar ôl rhan gyntaf y gystadleuaeth, ond methodd wrth geisio codi 113kg.

Llwyddodd Zoe Smith o Loegr i godi 118kg i sicrhau'r fedal aur a record newydd i'r gemau.

Ndidi Winifred o Nigeria gafodd y fedal arian.

Roedd Breeze, 35, wedi dod allan o ymddeoliad i gystadlu yn Glasgow ar ôl iddi ennill medalau aur yn 2002 a 2006.

Hefyd yn cystadlu oedd un o ddisgyblion Breeze, Christie Williams.

Fe wnaeth Williams ond dechrau cystadlu yn y gamp 18 mis yn ôl, ac fe orffennodd yn y 13eg safle.