Morgannwg yn curo Middlesex yn y cwpan undydd

Jim Allenby Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Jim Allenby 70 o rediadau i Forgannwg ddydd Sadwrn

Fe wnaeth Morgannwg sicrhau buddugoliaeth gyfforddus dros Middlesex yn y Cwpan Undydd ddydd Sadwrn.

Jim Allenby a Jacques Rudolph serennodd i'r tîm cartref, wrth i Forgannwg guro o saith wiced.

Middlesex fatiodd gyntaf, ond dim ond 90 rhediad llwyddon nhw i sgorio am yr wyth wiced gyntaf, gyda Michael Hogan (3-46) a David Lloyd (3-25) yn cymryd tair wiced yr un i Forgannwg.

Er hynny, llwyddodd Neil Dexter a Steven Finn i roi siawns i Middlesex, y ddau yn sgorio 43 a 42 heb fod allan. 174 am 8 oedd sgôr terfynol Middlesex.

Llwyddodd Allenby (70) a Rudolph (61) i gyrraedd 136 cyn i Forgannwg golli eu wiced gyntaf, cyn i Mark Wallace a Chris Cooke sicrhau'r fuddugoliaeth gyda 13 pelawd yn weddill.

Morgannwg 175 - 3 wedi curo Middlesex 174 - 8 o saith wiced.