Judo: Aur i Natalie Powell

Natalie Powell

Llwyddodd Natalie Powell i guro Gemma Gibbons yn rownd derfynol y categori dan 78kg i sicrhau ail fedal aur Tim Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

Roedd Powell llawer cryfach na Gibbons enillodd fedal arian yn y Gemau Olympaidd yn 2012.

Daeth Powell, o Lanwrtyd, i'r gemau fel un o brif obeithion Tîm Cymru am fedal, gan ei bod hi ar frig rhestr Prydain.

Dyma'r ail fedal aur i Gymru, wedi i Frankie Jones ennill y gyntaf yn ei pherfformiad olaf yn y gymnasteg rhythmig.