Dwy efydd i Gymru yn y pwll a'r felodrom

Elinor Barker Image copyright Getty Images

Daeth dwy fedal efydd i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad brynhawn Sadwrn i Elinor Barker a Jack Thomas.

Daeth y cyntaf i Barker wrth iddi orffen y tu ôl Annette Edmonson ac Amy Cure yn y ras feicio 10km.

Llwyddodd Barker i aros yn gryf tuag at ddiwedd y ras i guro Dani King a Katie Archibald i'r drydydd safle.

Yna yn y pwll, fe wnaeth Jack Thomas orffen yn y drydydd safle yng nghategori S14 y ras 200m dull rhydd.

Thomas Hamer o Loegr enillodd y fedal arian wrth i Daniel Fox o Awstralia ennill y fedal aur.