Dynes wedi marw ar ôl disgyn o geffyl ar Benrhyn Gŵyr

Mae dynes wedi marw ar ôl disgyn oddi ar geffyl ar draeth ar Benrhyn Gŵyr.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw am 08:45 ddydd Sul yn dilyn adroddiadau bod person wedi disgyn o geffyl ar draeth Llangenydd.

Cafodd yr ambiwlans a'r ambiwlans awyr hefyd eu galw i'r safle.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod "yn gallu cadarnhau marwolaeth sydyn dynes 51 oed".

Nid yw'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus, ac mae'r crwner wedi cael gwybod.