Ail fuddugoliaeth i Forgannwg yn y Cwpan Undydd

Graeme Wagg Image copyright Getty Images
Image caption Graeme Wagg oedd arwr Morgannwg gan sgorio 37 heb fod allan i sicrhau'r fuddugoliaeth

Enillodd Morgannwg eu hail gêm mewn dau ddiwrnod wrth iddyn nhw guro Surrey o dair wiced yn y Cwpan Undydd yn Guildford.

Roedd Surrey ar 108-5 ar un adeg ond llwyddon nhw i gyrraedd 307-8 yn eu 50 pelawd diolch i bartneriaeth o 114 rhwng Rory Burns (87) ac Azhar Mahmood (57).

Rhoddodd Will Bragg (88) a Murray Goodwin (74) ddechrau da i Forgannwg, ond cymrodd Stuart Meaker (4-78) dair wiced sydyn i roi mantais i Surrey.

Ond gyda naw pêl yn unig yn weddill, Graeme Wagg sicrhaodd y fuddugoliaeth.

Yn batio yn rhif wyth a naw, Wagg (37 heb fod allan) ac Andrew Salter (16 heb fod allan) oedd arwyr y Cymry.

Dyma'r ail fuddugoliaeth i Forgannwg yn y gystadleuaeth, wedi iddyn nhw guro Middlesex ddydd Sadwrn.

Morgannwg 308-7 (48.3 pelawd) wedi curo Surrey 307-8 (50 pelawd) o dair wiced.

Straeon perthnasol