Apêl am ferch 14 oed sydd ar goll yng Nghaerffili

Heddlu Image copyright NWP
Image caption Heddlu yn apelio ar ôl i ferch 14 oed fynd ar goll

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ferch 14 mlwydd oed ddiflanu o'i chartref yng Nghaerffili.

Does neb wedi gweld Bonnie Rose Clarke ers dydd Gwener Gorffennaf 25.

Mae'r heddlu wedi disgrifio Bonnie fel geneth croen gwyn, tua 5 troedfedd 7 modfedd o daldra.

Mae ganddi wallt tywyll hir ac mae'n bosibl ei bod yn gwisgo fflip-fflops a ffrog fer amryliw.

Oes oes gan unrhyw un wybodaeth ynglŷn â lleoliad Bonnie fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r rhif 131 25/07/14.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.