Medal arian i'r capten Aled Sion Davies

Aled Sion Davies Image copyright Getty Images
Image caption Arian oedd lliw y fedal enillodd Aled Sion Davies yn Glasgow wrth daflu'r ddisgen

Mae Capten tîm Cymru, Aled Sion Davies, wedi ennill nawfed medal arian Cymru ar y pumed diwrnod o gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow ond mae'n cyfadde' ei fod yn siomedig.

Roedd Davies wedi gobeithio am fedal aur ond doedd ei ail dafliad (46.83 medr) o'r ddisgen, y gorau o chwe ymgais, ddim yn ddigon i guro taflaid gorau'r Sais, Dan Greaves, 59.21 medr.

Richard Okigbazi o Nigeria oedd yn drydydd gyda thafliad o 39.38 medr yn rownd derfynol taflu'r ddisgen F42/F44.

Roedd Davies yn emosiynol iawn ar ôl ei dafliad olaf.

Davies yw pencampwr Paralympaidd ac enillodd dwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Byd ac roedd wedi gobeithio gwneud yn well.

"Fe weles i be wnaeth y dorf i fi yn Llundain," meddai cyn cystadlu.

"Fi'n mynd mewn i Glasgow yn well nag erioed, a fi moyn torri, na chwalu, dim jyst torri'r record ond ei chwalu.

"Dwi eisiau taflu dros 50 medr."

Positif

Ond dywedodd ar ôl y gystadleuaeth ei fod yn "ceisio edrych ar y positif ond dwi'n siomedig iawn".

"Nid dyna'r lliw yr oeddwn eisiau ond mewn amser dwi'n siwr y byddaf yn ei werthfawrogi.

"Roeddwn i'n gwybod bod gan Dan dafliad mawr ynddo.

"Roeddwn yn weddol hapus gyda fy mherfformiad.

"Dwi'n gwybod y byddwn i wedi gallu taflu ychydg yn bellach.

"Dwi'n dal yn ifanc ac mae Dan ar frig ei yrfa," ychwanegodd.

Erbyn hyn mae gan Gymru 20 o fedalau, un yn fwy nag yn Delhi yn 2010.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.