Gwirfoddoli: Yr hen a ŵyr..a'r ifanc a ddysga

Pobl ifanc ar y Maes Image copyright Eisteddfod
Image caption Dros y blynyddoedd diwetha' mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ceisio cyflwyno nifer o gynlluniau i apelio at yr ifanc

Un o brif argymhellion y grŵp gorchwyl fu'n ystyried dyfodol yr Eisteddfod ar ran Llywodraeth Cymru yn 2012 oedd bod angen denu mwy o wirfoddolwyr ifanc. Wrth i'r Brifwyl agor ei drysau yn Llanelli, mae Cymru Fyw wedi bod yn holi am gyfraniad yr ieuenctid at y paratoadau eleni.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor gwaith, Gethin Thomas, mae 'na bwyslais amlwg wedi bod ar yr ifanc ers cychwyn trefnu Eisteddfod Sir Gâr, nid yn unig o ran y gwaith codi arian, ond hefyd wrth benderfynu ar arlwy'r wythnos.

Meddai: "Fe welson ni'n fuan iawn bod gyda ni sioeau cerdd oedd wedi cael eu paratoi mewn gwahanol ysgolion, er enghraifft, a'r sioeau cerdd hynny fydd y brif seremoni agoriadol ar y nos Wener gynta', gyda rhyw bump o ysgolion uwchradd y sir, Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi a Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth yn cymryd rhan.

"Ma' plant a phobl ifanc y sir hefyd yn cymryd rhan yn y seremonïau yn ystod yr wythnos, yn ogystal â'r cyngherddau nos.

"Mae 'na noson arbennig i ddathlu 70 mlynedd o wasanaeth a bodolaeth Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gâr ar y nos Fawrth, er enghraifft.

'Troedio i'r dyfodol'

Mae'r ieuenctid hefyd wedi chwarae rôl o ran y gwaith trefnu, gyda nifer o bwyllgorau lleol wedi rhoi cyfle amhrisiadwy i bobl ifanc fagu profiad o drefnu eisteddfod.

Dywedodd Mr Thomas: "Mae 'na gnewyllyn o bobl ifanc wedi bod yn rhan o'r pwyllgorau lleol fel bod nhw'n dechrau dysgu'r grefft o drefnu gweithgareddau.

"Ma' nifer ohonon ni wedi bod wrth y llyw ers rhai blynyddoedd, a ni ishe gweld nawr bod pobl eraill yn barod i gymryd drosodd fel y cedwir i'r oesoedd â ddel.

"Y gobaith trwy hyn oll yw y bydd pobl ifanc yn efelychu a datblygu ar y sgiliau maen nhw'n eu gweld.

"Mae'n ffordd bwysig iawn i droedio i'r dyfodol, rwy'n credu."

Image copyright Arall
Image caption Bydd cyngerdd Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gâr nos Fawrth yn dathlu 70 mlynedd ers sefydlu'r ffederasiwn

'Teimlo'n rhan o'r holl beth'

Un o'r gwirfoddolwyr ifanc yw Gwawr Lewis, 29, sydd ar bwyllgor Trelech a'r Betws.

"Ges i'n ethol yn gadeirydd, fy ffrind yn ysgrifennydd a fy ffrind arall yn drysorydd - y tair ohonan ni dan 30 oed.

"Roedden ni wedi cael targed o £2,500 a phenderfynon ni geisio gwneud 'chydig o bethau gwahanol i godi'r arian - gawson ni rasys moch, noson gyri, a chwis, er enghraifft. Roedden ni'n ceisio sicrhau bod yr hen a'r ifanc, y Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg yn teimlo'n rhan o'r holl beth.

"Fi 'di bod mewn cymaint o 'steddfodau dros y blynydde. Fi'n credu bod hi'n bwysig bod pobl ifanc yn cymryd cyfrifoldeb a ddim yn dibynnu ar y genhedlaeth hŷn. Mae'n gyfle i ni wneud yn siŵr bod gweithgareddau'n cael eu cynnal yn yr iaith Gymraeg, a'n bod ni'n gallu denu diddordeb pobl sydd ddim yn iaith gynta' - fel eu bod nhw'n cael mynediad rhwydd at y Gymraeg.

"Hefyd ma' cefn gwlad yn gallu bod yn ynysig, mae wedi bod yn neis cael gweithgareddau i bobl gael cymysgu.

"Ma' Sir Gâr yn draddodiadol wedi bod yn sir Gymraeg, ond yn ddiweddar 'dyw pethe ddim yn ffynnu fel ma' pobl yn feddwl. 'Dwi 100% y tu ôl i unrhyw beth fyddai'n sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio yn y sir.

"Dwi'n rhan o'r gyngerdd nos Fawrth hefyd. Mae'n braf bod y ffermwyr yn cael bod yn rhan o'r Eisteddfod - y tro cynta' i'r Ffermwyr Ifanc gael y math yma o lwyfan yn yr Eisteddfod. Gobeithio bydd hi'n orlawn yn y Pafiliwn!"

Image caption Bydd pobl ifanc yn chwarae rhan amlwg yng nghyngherddau a seremonïau'r wythnos