Efydd i Pilling yn y reslo

Craig Pilling Image copyright Tim cymru

Mae Craig Pilling wedi llwyddo i gael medal efydd i Gymru yn y gystadleuaeth reslo 57kg.

Curodd ei ornest olaf 8-5 gan sicrhau y fedal gyntaf i Gymru ei hennill yn y gamp erioed.

Hon oedd medal gyntaf y dydd i Dîm Cymru ar y dydd a'r 23 yn gyfan gwbl.

Hanner ffordd drwy'r chweched diwrnod, mae'r targed o ddod gartref gydag o leiaf 27 bellach o fewn cyrraedd.