Ian Gough yn euog o ymosod

Ian Gough

Mae'r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Ian Gough wedi ei gael yn euog o ymosod.

Roedd Gough wedi ymosod ar ei gyn gariad Sophia Cahill ddyddiau'n unig ar ôl iddi ddyweddïo â'r seren bop Dane Bowers.

Clywodd Llys yr Ynadon Croydon ei fod wedi gwthio Ms Cahill - enillydd cystadleuaeth Miss Cymru yn 2000 - fewn i ddrws ei gerbyd gan waethygu anafiadau roedd hi wedi eu derbyn mewn damwain car.

Yn ystod yr achos roedd Mr Bowers wedi disgrifio sut y gwelodd yr ymosodiad yn digwydd drwy ffenest ei gartref.

Roedd Gough wedi gwadu iddo ymosod ar Ms Cahill, gan honni ei bod hi'n ymddwyn yn ymosodol ac wedi taro ei gar.

Bydd y chwaraewr sydd bellach yn chwarae i Ddreigiau Gwent yn cael ei ddedfrydu ar Awst 24.