Arian i Jazz yn y 400m

Jazz Carlin Image copyright BBC Sport

Mae pentwr medalau Tîm Cymru yn parhau i gynyddu ar ddiwrnod chwech yn Glasgow.

Wedi iddi gipio'r fedal aur yn yr 800m rhydd yn y pwll nofio nos Lun, fe gafodd Jazz Carlin fedal arian yn y 400m.

Doedd hi heb nofio'i gorau yn y rowndiau rhagbrofol yn ystod y dydd, ond fe roddodd hi chwip o ras i weddill y merched yn y rownd derfynol gyda'r nos.

Lauren Boyle o Seland Newydd enillodd y fedal aur, a Bronte Barrett o Awstralia aeth â'r efydd.

Mae athletwyr Tîm Cymru bellach wedi ennill 25 medal, ac o fewn cyrraedd targed y garfan o ddod adref gyda 27 medal.