Medal aur i Georgia Davies

G

Mae Georgia Davies wedi cipio'r fedal aur yn y 50m dull cefn yn Glasgow.

Gydol y rowndiau rhagbrofol, mae Georgia wedi torri record Gemau'r Gymanwlad, ac fe wnaeth hi hynny unwaith eto yn y rownd derfynol gan nofio hyd y pwll mewn 27.56 eiliad.

Lauren Quigley o Loegr aeth â'r fedal arian, a Brooklyn Snodgrass o Ganada gafodd y fedal efydd.

Gwta 24 awr yn ôl, doedd merched Cymru heb gael medal aur yn y pwll nofio ers 40 mlynedd.

Nawr, mae gan y garfan ddwy, wedi i Jazz Carlin guro'r 800m neithiwr.

Hon oedd medal rhif 26 i Gymru yn Glasgow.